Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn bartneriaeth unigryw rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ymgynghorwyr peirianneg, Atkins.
Mae cyflwyniad y canolfannau Rheoli Traffig wedi cael effaith arwyddocaol ar effeithlonrwydd rheolaeth y rhwydwaith ffordd, a’r ddarpariaeth gwybodaeth i’r cyhoedd teithiol.
Mae’r Canolfannau Traffig yng Nghaerdydd a Conwy yn ffurfio canolfan cyfathrebiadau Traffig Cymru a rhwydwaith lledaenu gwybodaeth sydd yn galluogi’r gwasanaeth i weithredu’n effeithiol 24 awr y dydd, pob diwrnod o’r flwyddyn.
Mae’r ddau ganolfan yng Nghaerdydd a Conwy yn cyfathrebu’n rheolaidd gan rannu gwybodaeth a syniadau. Mae hyn wedi arwain at nifer o welliannau a chydrannu ymarfer gorau. Cafwyd arloesed technolegol eu trosglwyddo i’r canolfan yng Ngogledd Cymru tra bod y sgiliau o reoli twnelau a’r system hyfforddiant ardderchog a sefydlwyd yng Ngogledd Cymru wedi eu hamsugno i dîm De Cymru.
